Podcast charts
Published by Mari Beard and Meilir Rhys Williams
Podlediad sgyrsiol arobryn || Award-winning, light entertainment podcast. British Podcast Award winner 2023
On the charts
Every published chart this podcast appears in, in the snapshot behind this page. Each one links to the chart it came off.
From the feed
The latest episodes published to this podcast’s own RSS feed. Titles and descriptions are the publisher’s.
Mae yna lwyth o bethau wedi digwydd ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos yma. O ymddiswyddiad Tom Jones o The Voice, P!nk yn beirniadu Macklemore a thrafferthion sioe gerdd Burlesque - mae'r silffoedd yn llawn! Felly dewch i mewn i'r siop i wrando ar y clebran. Mae Mari a Meilir yn barod wrth y cownter!
Wedi'r holl newyddion trist am golli arwyr yr wythnos yma, mae Mari a Meilir yn falch o ddod nol i'r siop i gael het atgofion am Dolly Parton, Tim Curry ac i glywed am holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Gŵyl Llanuwchllyn ac enwebiadau BAFTA Cymru. Mae'r tywydd wedi troi felly swatiwch ar y soffa efo paned a pwyswch play.
Mae'r siop yr wythnos hon yn fyw o westy yng Nghaerdydd ac mae Mari a Meilir yn cael y cyfle i hel clecs wyneb yn wyneb am change! Mae yna ambell i drip theatr wedi bod gan gynnwys ymweliad ag ymarferion sioe newydd sbon Cwmni Theatr yr Urdd sef 'Calon'. Dewch i mewn i glywed ymateb Meilir i'r sioe a llawer mwy...
Mae Mari a Meilir wedi bod ar eu travels ac mae nhw'n falch iawn i fod nol yn y siop i ddadbacio'r holl glecs ma nhw di'w casglu dros yr wythnos. O Mariah Poppins, i The Odyssey i'r Dic coll i albwm newydd Aleighcia Scott. Felly dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs!
Mae'r Eisteddfod wedi bod ac mae'r felan (blues) yn drwm! Ond dim ots, achos mae'r siop ar agor i ddadbacio holl gossip, drama a phob cam ddigwyddodd yn ystod yr Ŵyl. Felly swatiwch ar y soffa neu'ch lounger, estynwch am eich paned neu aperol a mwynhewch. Mae'r siop ar agor unwaith eto!
Wrth i'r Brifwyl agosau, pa ffordd well i baratoi ati na chael cwis ysgafn a hwyliog?! Hefyd bydd M&M yn trafod Sesiwn Fawr Dolgellau, y gossip diweddaraf am Ariana Grande a'r ffaith nad ydi pel-droed yn dod adref...diolch byth! Mewn â chi i'r siop.
Mae Mari a Mei yn brysur baratoi at yr Eisteddfod tra'n cadw golwg barcud ar bopeth sy'n gyfredol ar y cyfryngau cymdeithasol a'r newyddion. O'r ffilm Effi o Blaenau i Ŵyl Natur Aberystwyth. Rhywbeth at ddant pawb! Dewch i mewn am browse bach.
Mae Mari a Mei wyneb yn wyneb yn recordio'r bennod hon - felly byddwch yn barod am lawr o wylltineb a chyffro! Mae'r briodas gyfrinachol fwyaf enwog wedi bod, Binface ar y newyddion a Pitbull yn Blackweir. Heb sôn am ddathliadau tila'r UDA yn 250, cerddoriaeth newydd Madonnna ac Aleighcia Scott a noson allan Mei a Mari yn Aber. Dyna ddigon o ragflas - i mewn â chi...
Mae Mari wedi am wyliau efo'r gens a Meilir wedi bod ar gefn ei paddleboard ond mae'r ddau bellach yn ôl yn y siop yn barod i drafod digwyddiadau'r wythnos dros baned ar y cownter. Mae yna hen drafod am Andy Burnham, Lizzo, sengl newydd Cordia a hoover newydd Meilir. Dewch i mewn i ymuno yn y sgwrs.
Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC.
Mae wythnos arall wedi pasio ac mae'r siop yn ôl 'in the swing of things' ers y daith. Yr wythnos hon ,cawn glywed am drip Mari i 'Dylan's Costal Retreat' a thrip Meilir i weld Rufus Wainwright yn Llundain. Hefyd, bydd Mari a Mei yn trafod taith Take That a pherfformiadau Harry Styles cyn agor y blwch ceisiadau i ateb eich cwestiynnau. Croeso i'r Siop Siarad!
Mae Mari a Meilir yn ôl yn y siop ar ôl trip i Galeri Caernarfon ac mae'n amser rhoi trefn ar y stoc. O drafod digwyddiadau'r pythefnos diwethaf fel cyhoeddiad Duffy, drama Queer Eye, dathliadau Pride a marwolaeth yr actor Anthony Head, i'r Silff Sobor ac wrth gwrs y Blwch Ceisiadau! Mae'n braf bod nol yn y siop. I mewn â chi...
Sypreis! Er i ni gyhoeddi nad oedd pennod yr wythnos yma, doedd Mari na Mei methu peidio ag agor y siop i siarad non stop. Ma na sgrysiau am Eisteddfod yr Urdd, cacen benblwydd, gŵr Katie Price, Andy Burnham a chomedïau byrion S4C. Beth chi'n neud yn sefyll tu fas? Mewn â chi i wrando.
Am wythnos hanesyddol i wleidyddiaeth Cymru! Mae'r felin bupur wedi bod yn troi'n ddi-stop yma yn y siop. O gefnogaeth Plaid Cymru (a R£form), ymateb Keir Starmer a'r holl sylwebaeth ar y teledu a'r radio. A sôn am deledu, roedd gwobrau BAFTAs yr wythnos yma hefyd. A llond blwch yn geiriosen ar ben y gacen. Felly, i mewn â chi gyfeillion annwyl - mae'r siop ar agor.
Mae hi'n ddiwrnod pwysig iawn heddiw yng Nghymru wrth i'r gorsafoedd pledleisio agor. Ond peidiwch â phoeni, mae'r Siop Siarad ar agor hefyd fel yr arfer. Mae yna drafodaeth ddyrys am wisgoedd y Met Gala, adolygiadau o ail gyfres Anfamol, ffilm Devil Wears Prada 2 a mwy. Heb sôn am flwch ceisiadau mor llawn â blwch pledleisiau Plaid Cymru... I mewn â chi i'r siop.
Mae teledu yn cael dipyn o sylw yn y siop yr wythnos yma - ffeinal Y Llais, drama aduniad I'm a Celeb, Helena Bonham Carter yn gadael cyfres 4 White Lotus, Russell Brand ar raglen Piers Morgan a llawer mwy. Gyda blwch gorlawn, mae hon yn bennod go swmpus, felly i mewn â chi i'r siop a mwynhewch.
Yn y bennod hon, mae Mari wedi mentro i Lanuwchllyn - sy'n golgygu fod Mari a Meilir wedi recordio y bennod hon wyneb yn wyneb. A ma pethau wastad yn mynd braidd yn wirion pan mae'r ddau yn yr un ystafell, Mae 'na sgwrsio am drip penblwydd Meilir, pennod ddiweddaraf Y Llais a llawer mwy. Mewn â chi i wrando!
Sypreis! A hithau'n wythnos benblwydd ar Mari a Meilir, dyma benderfynu recordio pennod arbennig er i ni ddweud na fyddai na un yr wythnos hon. Da ni'n cael clywed am ddathliadau Mari, Meilir yn ffilmio efo Cabarela yn ogystal â holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys Coachella, SheUltra ac amser Meilir yn gweini ar y teulu brenhinol...! Mewn â chi i glywed yr hanes. Mae'r siop ar agor!
Mae'r Gwanwyn wedi cyrraedd o'r diwedd ac mae'r Pasg bellach wedi pasio. Gawsoch chi ŵy? Gawsoch chi wyliau? Wel, mae Mari a Meilir yn y siop fel yr arfer yn barod i drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos gan gynnwys gwaharddiad Kanye West rhag dod i'r D.U., drama'r ddylanwadwraig Mikayla ar Tiktok ac ymweliad Meilir â W.I. Llanuwchllyn. Dewch i mewn, mae'r siop ar agor!
Pasg hapus i chi gyd! Gobeithio'ch bod chi gyd yn mwynhau'r tymor Aries hyd yma ac yn barod i fwyta llond boliaid o wyau siocled dros y penwythnos. Mae yna lond trol o destunau i'w trafod eto'r wythnos yma - o ymadawiad Scott Mills o'r BBC, tocynnau Celine Dion, Ant a Dec a Bethan a rhaglenni S4C ar poliamori a phigiadau colli pwysau. Ewch i nol ŵy pasg arall, gwnewch baned a dewch i mewn i'r siop i wrando.
Ranking source
Apple Podcasts rankings via the Mato Topic Intelligence Platform.
Observed September 20, 2026.
Apple and Apple Podcasts are trademarks of Apple Inc., registered in the U.S. and other countries.
Pairs with
Bring this source into Mato to read its transferable patterns, then turn them into an original show for your own audience.